join donate discuss

“Common Ground” in Cardiff: Plaid Cymru and the Green Party announce new electoral alliance

Common Ground

“Common Ground” in Cardiff: Plaid Cymru and the Green Party announce new electoral alliance

  • Plaid Cymru and the Green Party have announced the formation of a new electoral alliance for Cardiff.
  • “The challenges facing our capital city are urgent and require new ways of thinking” says leader of Wales Green Party
  • Joint manifesto will feature protecting and enhancing green spaces, fairer housing, tackling the climate crisis, and giving real democratic power to communities.

Plaid Cymru and the Green Party have today announced the formation of a new electoral alliance for next year’s council elections in Cardiff.

In what is a ground-breaking development for elections in Cardiff, campaigners have announced that the alliance will work together as a single united party across the city’s wards heading towards election day.

Protecting and enhancing public green spaces, fairer housing, tackling the climate crisis, and giving real democratic power to communities will feature in a joint manifesto, to be launched later in the year.

The initiative has emerged from common concerns amongst party members and campaigners in the capital city, calling for a more progressive and inclusive approach to local decision-making. The alliance embraces independent grassroots activists from outside of Plaid Cymru and the Green Party, who share common ground with the parties on vital campaign issues in the city.

Work is now underway to set up joint slates of candidates across the city in order to provide a positive electoral alternative to the incumbent city administration.

Anthony Slaughter, Wales Green Party leader, said

“Working together with others to bring this exciting alliance together ahead of next year's Cardiff Council elections has been inspiring. At a time of Climate and Environmental Emergency and growing inequality, 'Business as Usual' politics is failing our communities at every level of government.

Warm words and vague ambitions from elected representatives are no longer enough as Cardiff suffers from an increasing loss of invaluable public green spaces, inappropriate over development and planning decisions all so often skewed against the needs of the communities impacted.

Wales Green Party believes that power and decision making should always be devolved to the most appropriate local level, and we believe that this alliance on areas of common ground will give Cardiff voters an opportunity to vote for real change and genuine community representation.

The challenges facing our capital city are urgent and require new ways of thinking. This working together, cooperative 'grown up'  politics is the change that is needed.”

Rhys ab Owen MS, who has taken part in discussions to form the alliance, commented:

“Plaid Cymru in Cardiff is proud to be part of this announcement of a new political alliance in our capital city. This new electoral alternative can be the change that Cardiff needs, offering communities a fresh political voice by standing under a single joint name on the ballot paper.

This is about recognising common ground between our parties and campaigners, and working together to do politics in a new and more co-operative way, recognising the need for a new political force that will protect and nurture everything that is good about Cardiff, and which will meet the challenge of the climate crisis and the reckless and faceless over-development we’re seeing in parts of the city.

We are actively reaching out to those from outside of politics who might share our values and can make a difference.”

Those wishing to join the campaign are invited to get in touch at post@commonground.cymru.

 

NOTES FOR EDITORS

  • Members of the alliance team will be available in Chapter Arts Centre, Canton from 10.30am until 1.30pm on Friday 24th September.
  • The alliance has signed a Memorandum of Understanding setting out how it will operate, and is in discussions with the Electoral Commission about registering a joint description for candidates to use, with several options under consideration.
  • Further information will be unveiled at a full campaign launch later in the year, along with candidate announcements.
  • For further inquiries please contact: post@commonground.cymru.

Tir Cyffredin” yng Nghaerdydd: Plaid Cymru a’r Blaid Werdd yn cyhoeddi cynghrair etholiadol newydd

  • Mae Plaid Cymru a’r Blaid Werdd wedi cyhoeddi eu bod am ffurfio cynghrair etholiadol newydd i Gaerdydd.
  • “Mae’r heriau sy’n wynebu ein prifddinas yn rhai brys ac yn gofyn am ffyrdd newydd o feddwl” meddai arweinydd Plaid Werdd Cymru
  • Bydd maniffesto ar y cyd yn cynnwys amddiffyn a gwella mannau gwyrdd, tai tecach, mynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd, a rhoi pŵer democrataidd go iawn i gymunedau.

Heddiw mae Plaid Cymru a’r Blaid Werdd wedi cyhoeddi y bydd cynghrair etholiadol newydd yn cael ei ffurfio ar gyfer etholiadau’r cyngor y flwyddyn nesaf yng Nghaerdydd.

Yn yr hyn sy’n ddatblygiad arloesol ar gyfer etholiadau yng Nghaerdydd, mae ymgyrchwyr wedi cyhoeddi y bydd y gynghrair yn gweithio gyda’i gilydd fel plaid unedig ar draws wardiau’r ddinas wrth weithio tuag at ddiwrnod yr etholiad.

Bydd amddiffyn a gwella mannau gwyrdd cyhoeddus, tai tecach, mynd i’r afael ag argyfwng yr hinsawdd, a rhoi pŵer democrataidd go iawn i gymunedau yn ymddangos mewn maniffesto ar y cyd, a fydd yn cael ei lansio yn ddiweddarach yn y flwyddyn.

Mae'r fenter wedi deillio o bryderon cyffredin ymhlith aelodau'r pleidiau ac ymgyrchwyr yn y brifddinas, gan alw am ddull mwy blaengar a chynhwysol o wneud penderfyniadau lleol. Mae'r gynghrair yn cynnwys gweithredwyr llawr gwlad annibynnol o'r tu allan i Blaid Cymru a'r Blaid Werdd, sy'n rhannu tir cyffredin gyda'r pleidiau ar faterion ymgyrchu hanfodol yn y ddinas.

Mae gwaith bellach ar y gweill i sefydlu rhestri ar y cyd o ymgeiswyr ledled y ddinas er mwyn darparu dewis etholiadol cadarnhaol yn lle corff gweinyddol presennol y ddinas.

Dywedodd Anthony Slaughter, arweinydd Plaid Werdd Cymru,

"Mae cydweithio ag eraill i ddod â'r gynghrair gyffrous hon at ei gilydd cyn etholiadau Cyngor Caerdydd y flwyddyn nesaf wedi bod yn ysbrydoledig. Ar adeg o Argyfwng Hinsawdd ac Amgylcheddol ac anghydraddoldeb cynyddol, mae gwleidyddiaeth 'Busnes fel Arfer' yn methu ein cymunedau ar bob lefel o lywodraeth.

Nid yw geiriau cynnes ac uchelgeisiau amwys gan gynrychiolwyr etholedig yn ddigon bellach gan fod Caerdydd yn dioddef o golli mwy a mwy o fannau gwyrdd cyhoeddus gwerthfawr, gor-ddatblygu amhriodol a phenderfyniadau chynllunio sydd yn aml yn mynd yn erbyn anghenion y cymunedau yr effeithir arnynt.

Mae Plaid Werdd Cymru o'r farn y dylai pŵer a phenderfyniadau gael eu datganoli bob amser i'r lefel leol fwyaf priodol, a chredwn y bydd y gynghrair hon ar feysydd tir cyffredin yn rhoi cyfle i bleidleiswyr Caerdydd bleidleisio dros newid gwirioneddol a chynrychiolaeth gymunedol wirioneddol.

Mae'r heriau sy'n wynebu ein prifddinas yn rhai brys ac mae angen ffyrdd newydd o feddwl. Y wleidyddiaeth gydweithredol 'aeddfed' hyn yw'r newid sydd ei angen."

 

 

Dywedodd Rhys ab Owen AS, sydd wedi cymryd rhan mewn trafodaethau i ffurfio'r gynghrair:

"Mae Plaid Cymru yng Nghaerdydd yn falch o fod yn rhan o'r cyhoeddiad hwn am gynghrair wleidyddol newydd yn ein prifddinas. Y dewis etholiadol newydd hwn yw'r newid sydd ei angen ar Gaerdydd, gan gynnig llais gwleidyddol newydd i gymunedau drwy sefyll o dan un enw ar y cyd ar y papur pleidleisio.

Mae hyn yn ymwneud â chydnabod tir cyffredin rhwng ein pleidiau a'n hymgyrchwyr, a chydweithio i wneud gwleidyddiaeth mewn ffordd newydd a mwy cydweithredol, gan gydnabod yr angen am rym gwleidyddol newydd a fydd yn diogelu ac yn meithrin popeth sy'n dda am Gaerdydd, ac a fydd yn ateb her yr argyfwng hinsawdd a'r gor-ddatblygiad di-hid a di-wyneb a welwn mewn rhannau o'r ddinas.

Rydym wrthi'n estyn allan at y rhai o'r tu allan i wleidyddiaeth a allai rannu ein gwerthoedd ac sy'n gallu gwneud gwahaniaeth."

Gwahoddir y rhai sy'n dymuno ymuno â'r ymgyrch i gysylltu â ni trwy post@commonground.cymru.

NODIADAU AR GYFER GOLYGYDDION

  • Bydd aelodau o dîm y gynghrair ar gael yng Nghanolfan Gelfyddydau Chapter, Treganna rhwng 10.30am a 1.30pm ddydd Gwener 24 Medi.
  • Mae'r gynghrair wedi llofnodi Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth sy'n nodi sut y bydd yn gweithredu, ac mae mewn trafodaethau gyda'r Comisiwn Etholiadol ynghylch cofrestru disgrifiad ar y cyd i ymgeiswyr ei ddefnyddio, gyda sawl opsiwn yn cael eu hystyried.
  • Bydd rhagor o wybodaeth yn cael ei datgelu mewn lansiad ymgyrch llawn yn ddiweddarach yn y flwyddyn, ynghyd â chyhoeddiadau ymgeiswyr.
  • Ar gyfer ymholiadau pellach cysylltwch â ni trwy: post@commonground.cymru.