Future Wales - a new book by Anthony Slaughter

QR code for Future Wales order
Future Wales book cover
Book cover in Welsh

From the leader of Wales’ Green Party, based on inspiration and research from across Wales, this book points to the possible ways forward for our country in an uncertain global future.

It points to the possibilities in current agendas in Wales, that need to be joined-up in strategies for change and developed as a matter of urgency.

‘Everywhere in the world we need to be making a ‘new deal’ with Nature. To be effective we have to achieve social and environmental objectives at the same time. We have to urgently create a new kind of politics before we get further locked into destructive patterns. The pandemic reminds us that if we do not prepare for the changes and risks in the real world then all of us will suffer. The same is true of climate change. It is vital that we consider in Wales, what we need to do to build a safer world.’ – Anthony Slaughter.

Anthony Slaughter is currently serving a second term as Wales Green Party Leader. Outside party politics Anthony has a long history of grassroots activism in the NGO, union, and community field in Wales, linking environmental and social justice work.

***
Gan arweinydd Plaid Werdd Cymru, yn seiliedig ar ysbrydoliaeth ac ymchwil o bob rhan o Gymru, mae’r llyfr hwn yn tynnu sylw at y ffyrdd posibl ymlaen i’n gwlad mewn dyfodol byd-eang ansicr.

Mae’n tynnu sylw at bosibiliadau yn agendâu presennol Cymru, sydd angen eu cydgysylltu mewn strategaethau ar gyfer newid a’u datblygu fel mater brys.

‘Ar draws y byd, rydym angen dechrau o’r newydd gyda natur. Er mwyn bod yn effeithiol, mae angen cyflawni amcanion cymdeithasol ac amgylcheddol ar yr un amser. Mae angen i ni greu math newydd o wleidyddiaeth cyn ein bod yn cael ein tynnu mewn i mwy o batrymau distrywiol. Fel yr ydym wedi gweld gyda’r pandemig, os nad ydyn yn paratoi ar gyfer y newidiadau a’r peryglon ym mywyd go iawn, byddwn i gyd yn dioddef. Mae’r un peth yn wir am newid hinsawdd. Mae’n angenrheidiol i ni ystyried yng Nghymru, beth rydym angen ei wneud i adeiladu byd mwy diogel’ - Anthony Slaughter

Ar hyn o bryd mae Anthony Slaughter ar ei ail dymor fel arweinydd Plaid Werdd Cymru. Tu allan i wleidyddiaeth, mae ganddo hanes o fod yn actifydd llawr gwlad yn y Corff Anllywodraethol, undeb a’r maes cymunedol yng Nghymru, gan gysylltu gwaith cyfiawnder amgylcheddol a chymdeithasol.

 

Endorsements 

'Future Wales is a valuable contribution to the exciting discussions around the possibilities for radical political change in Wales. The book highlights the potential for a fairer, greener Wales that goes hand in hand with essential democratic renewal and shows how a Green Wales could be a wider catalyst for positive change.' - Caroline Lucas MP

‘Mae Cymru’r Dyfodol yn gyfraniad gwerthfawr at y trafodaethau cyffrous ynghylch y posibiliadau am newidiadau radical i wleidyddiaeth yng Nghymru. Dengys y llyfr bod cyfle i gael Cymru werddach a thecach, ochr-yn-ochr ag adnewyddu ei democratiaeth, gan ddangos sut gall Cymru Werdd fod yn gatalydd ar gyfer newid positif.’ - Caroline Lucas AS

‘In a political culture defined by stasis, this book offers a vision for how we could do things differently. It sees clearly the connections between the multiple crises we face and proposes ways to address them that could ensure a fairer, greener Wales.’ - Mabli Siriol Jones, campaigner and former Chair of Cymdeithas yr Iaith

‘Mewn diwylliant gwleidyddol digyfnewid, dyma gyfrol sy’n cynnig gweledigaeth ar gyfer sut y gallwn wneud pethau’n wahanol. Mae’n gweld yn glir y cysylltiadau rhwng yr argyfyngau niferus o’n blaenau ac yn cynnig ffyrdd o fynd i’r afael â nhw a allai sicrhau Cymru decach, werddach.’ - Mabli Siriol Jones, ymgyrchydd a chyn-gadeirydd Cymdeithas yr Iaith

‘Without question, Wales could be a beacon in the coming difficult years ahead. So many of the necessary resources, both natural and human, are present here, but they cannot flourish as things currently stand, with Wales as a sidelined corner of an imploding UK. Change is urgently needed. In this concise and thoughtful book, Anthony Slaughter takes us through his vision for a green, progressive and independent Wales, and shows how this is an idea whose time has come. It is an important and serious contribution to the grown-up debate we so desperately need to be having.’ – Mike Parker, writer and broadcaster

‘Heb os, fe all Cymru achub y blaen yn y blynyddoedd anodd i ddod. Mae cymaint o’r adnoddau a fydd eu hangen ar gael yma, boed yn rhai dynol neu naturiol. Fodd bynnag ni allant ffynnu fel y mae pethau ar hyn o bryd, gyda Chymru yn gornel ar ymylon DU sydd wrthi’n datod. Mae angen newid ar frys. Yn y llyfr cryno, meddylgar, hwn mae Anthony Slaughter yn ein tywys drwy ei weledigaeth am Gymru werdd, flaengar, annibynnol, gan ddangos sut mae hyn yn syniad hynod amserol. Mae’n gyfraniad pwysig a gwerthfawr at y drafodaeth aeddfed sydd ei hangen yn druenus arnom ni.’ – Mike Parker, awdur a darlledwr